2014 Rhif 2121 (Cy. 207) (C. 95)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Cychwyn Rhif 1) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Dyma'r gorchymyn cychwyn cyntaf o dan Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (“y Ddeddf”). 

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn darparu mai 15 Awst 2014 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau o'r Ddeddf a nodir yn yr erthygl honno ac y cyfeirir atynt isod:

adran 9 (pŵer i ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Ddeddf);

adran 12(13) (pŵer i wneud rheoliadau i ragnodi amodau sydd i'w bodloni gan berson cyn y caiff cyngor cymuned awdurdodi'r person i roi hysbysiadau cosbau penodedig o dan y Ddeddf);

adran 13(3) (pŵer i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â swm y cosbau penodedig);

adran 13(4) (pwerau i'w gwneud yn ofynnol bod swm cosb benodedig yn dod o fewn ystod a ragnodir ac i gyfyngu i ba raddau y caiff awdurdod wneud darpariaeth o dan adran 13(1)(b) o’r Ddeddf a chyfyngu ar yr amgylchiadau pan all wneud hynny); ac

adran 16 (pŵer i ddiwygio Rhan 2 o Atodlen 1 i'r Ddeddf).

Daeth adrannau 18(1) (pŵer i roi canllawiau), 21 (gorchmynion a rheoliadau), 22 (cychwyn), a 23 (enw byr) o'r Ddeddf i rym ar 30 Tachwedd 2012.


2014 Rhif 2121 (Cy. 207) (C. 95)

LLYWODRAETH LEOL,  CYMRU

Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Cychwyn Rhif 1) 2014

Gwnaed                           24 Gorffennaf 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 22(2) o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012([1]).

Enwi a dehongli

1.(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (Cychwyn Rhif 1) 2014.

(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.

Diwrnod Penodedig

2. 15 Awst 2014 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â’r darpariaethau canlynol o’r Ddeddf i rym—

(a)     adran 9 (pŵer i ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Ddeddf);

(b)     adran 12(13) (pŵer i wneud rheoliadau i ragnodi amodau sydd i'w bodloni gan berson cyn y caiff cyngor cymuned awdurdodi'r person i roi hysbysiadau cosbau penodedig o dan y Ddeddf);

(c)     adran 13(3) (pŵer i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â swm cosbau penodedig);

(d)     adran 13(4) (pwerau i'w gwneud yn ofynnol bod swm cosb benodedig yn dod o fewn ystod a ragnodir ac i gyfyngu i ba raddau y caiff awdurdod wneud darpariaeth o dan adran 13(1)(b) o’r Ddeddf a chyfyngu ar yr amgylchiadau pan all wneud hynny); ac

(e)     adran 16 (pŵer i ddiwygio Rhan 2 o Atodlen 1 i'r Ddeddf).

 

 

 

Lesley Griffiths

 

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru

 

24 Gorffennaf 2014



([1])           2012 dccc 2.